Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Presiding Officer’s office, 4th floor - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 17 Medi 2014 |
|
|||
Amser: |
12:30 – 13:15 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2014(11) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler AC (Cadeirydd) Peter Black AC Sandy Mewies AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Craig Stephenson (Swyddog) Nicola Callow, Comisiwn y Cynulliad (Swyddog) Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Roedd Rhodri Glyn Thomas AC ac Angela Burns AC wedi anfon eu hymddiheuriadau.
1.2 Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf.
2 Cyllideb Ddrafft 2015-16
Roedd dogfen y gyllideb ddrafft, a ystyriwyd yn flaenorol yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf, wedi cael ei diweddaru. Fel y rhagwelwyd, mae rhagor o wybodaeth wedi’i chynnwys am y cynnydd yng nghost Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer staff y Comisiwn, yn ôl y disgwyl, ac mae gwybodaeth am gyllid dangosol ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol wedi’i chynnwys hefyd. Cadarnhaodd Llywodraeth y DU ffigwr is na’r disgwyl ar gyfer cyfraniadau’r cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, sy’n dileu’r angen am gynnwys eitem eithriadol.
Ystyriodd y Comisiynwyr fod y gyllideb ddrafft yn unol ag anghenion y Comisiwn a disgwyliadau’r Pwyllgor Cyllid yn llwyr. Teimlodd y Comisiynwyr y bydd y Gyllideb yn darparu llwyfan cadarn ar gyfer y Pumed Cynulliad i weithio arno, ac mae’n adlewyrchu’r nodau a’r targedau strategol y cytunwyd arnynt eisoes. Cytunodd y Comisiynwyr ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16, a rhoddwyd cymeradwyaeth i osod y ddogfen ar 25 Medi 2014.
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y gyllideb ddrafft ar 2 Hydref.
3 Unrhyw Fusnes Arall
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 29 Medi. Bydd y Comisiynwyr yn canolbwyntio ar faterion perfformiad, pan fyddant yn trafod yr adroddiad Perfformiad Corfforaethol am y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, a chanlyniadau’r Arolwg Aelodau a’u staff cymorth.
Bydd Peter Black yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ar 23 Medi i roi tystiolaeth ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Medi 2014